ER bod tocynnau ar gyfer sioe Te yn y Grug yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy wedi gwerthu allan o fewn oriau, bydd modd i berfformwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt gael cyfle i ddysgu’r caneuon cyn bo hir.

Bydd llyfr o ganeuon y sioe yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref ac mae modd rhag-archebu copïau ar-lein.

Al Lewis, Karen Owen a Cefin Roberts oedd yn gyfrifol am greu’r sioe uchelgeisiol, i nodi trigain mlynedd ers cyhoeddi cyfrol eiconig Kate Roberts.

Meddai Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod: “Mae caneuon sioe Te yn y Grug wedi ysbrydoli pawb sydd wedi’u clywed dros y misoedd diwethaf.

"Ry’n ni’n awyddus i ragor gael y cyfle i’w mwynhau a’u perfformio yn y dyfodol, ac fe fydd y gyfrol hon yn sicr yn ychwanegiad gwerthfawr i’r repertoire o ganeuon Cymraeg sydd ar gael.

"Bydd cyfle hefyd i’r rheini na lwyddodd i gael tocynnau ar gyfer y sioe i’w gweld ar y teledu yn hwyrach eleni.”

Celyn Cartwright, o Ddinbych, oedd yn perfformio rhan Winni Finni Hadog yn y sioe, ac wrth ei holi am ei phrofiad, meddai: “Yn ôl yn Tachwedd 2018, cefais fy nghlyweliad cyntaf o dri ar gyfer y cynhyrchiad oedd i’w berfformio yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.

"O’r eiliad cyntaf, ar ôl darllen y nofel, fe ddisgynais mewn cariad gyda cymeriad Winni Finni Hadog, ac roeddwn yn awyddus iawn i fynd am ei rhan hi yn y sioe. Heb os, hon yw’r sioe fwyaf i mi fod yn rhan ohoni.

“Doeddwn i methu aros i fynd dan groen cymeriad Winni.

"Mae hi yn gymeriad mor eiconig, sydd weithiau yn hollti barn.

"Roeddwn yn ymwybodol na fedrwn blesio pawb ar y noson, ac felly roedd yn bwysig i mi gadw’n dryw i fy nhehongliad i ohoni.

“Fe basiodd misoedd o ymarferion mewn dim o amser ac fel roedd y sioe fawr yn nesau, roedd disgwyliadau yn uchel, ac roedd pawb yn teimlo pwysau.

"Wythnos cyn y sioe, cawsom ein ymarfer cyntaf yn y pafiliwn, ac roedd hi’n dipyn o her ymgyfarwyddo i’r safle newydd ar ôl misoedd o ymarferion mewn gofod llawer llai.

“Roedd noson y sioe yn fythgofiadwy. Fe gollais fy hun yn awyrgylch y pafiliwn ac roedd yr egni o’r gynulleidfa yn wefreiddiol.

"Roedd yr adborth arbennig a gefais ar ol y perfformiad yn galonogol ac wedi gwneud y daith yn un gwerth chweil!”